Jobs
Tiwtor / Asesydd Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid NEU Tiwtor
- Job details
-
- Menai Bridge
- 3 weeks ago
Teitl y Swydd: Tiwtor / Asesydd Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid NEU Tiwtor / Asesydd Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid o dan hyfforddiant
Math o gytundeb: Swydd barhaol
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Graddfa 4: £27,200 - £29,916 NEU Graddfa 3: £24,942 - £27,191 (os o dan hyfforddiant)
Lleoliad: Ynys Môn, Bangor, Dinbych neu Glan-llyn
Dyddiad Cau: 19 Chwefror am hanner nôs
Dyddiad Cyfweld: i'w gadarnhau
Yr Adran Brentisiaethau
Mae Adran Brentisiaethau’r Urdd wedi bod yn darparu hyfforddiant o’r safon uchaf ers degawd bellach ac yn arbenigo mewn darparu rhaglenni cyfrwng Cymraeg a Ddwyieithog.
Y Swydd
Mae cyfle cyffroes i unigolyn ymuno gyda’r adran fel Tiwtor / Asesydd Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid neu Tiwtor / Asesydd Gwaith Ieuenctid (o dan hyfforddiant). Mae’r swydd yn cynnig cyfleodd deithio ar draws Cymru, i ymweld a gweithleoedd amrywiol ac i gefnogi ystod eang o brentisiaid.
Prif bwrpas y swydd:
Yn dilyn llwyddiannau Adran Brentisiaethau’r Urdd a’r Rhaglen Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid yn mynd o nerth i nerth, mae yna angen am asesydd eiddgar i ymuno â’r tîm. Bydd y swydd hon yn un allweddol er mwyn darparu dysgu, addysgu ac asesu o’r safon uchaf i brentisiaid Gwaith Ieuenctid.
Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol (yn berthnasol os o dan hyfforddiant):
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd ag hyfforddiant i’w gymhwyso i asesu cymwysterau galwedigaethol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cychwyn gweithio tuag at gymhwyster TAQA Lefel 3 ac mi fydd ei waith yn cael ei gydlofnodi gan Asesydd / Tiwtor profiadol tan ei fod yn gymwys. Byddent hefyd yn derbyn arweiniad a chymorth gan staff profiadol, ynghyd ag amryw o gyfleoedd hyfforddi eraill.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:
- Asesu, tiwtora a chefnogi’r dysgwyr gan sicrhau eu bod yn cyrraedd safon o’r lefel uchaf.
- Ymweld â’ch carfan o ddysgwyr yn rheolaidd dros yn y gweithle.
- Asesu cymwysterau Gwaith Ieuenctid Lefel 2 a 3, gan sicrhau bod y gwaith asesu yn digwydd mewn da bryd.
- Goruchwylio profion ac asesiadau dysgwyr, yn ôl y galw.
- Mewn cydweithrediad gyda’r timoedd prentisiaethau eraill, creu deunyddiau ac adnoddau dysgu addas.
- Cynllunio rhaglenni eich dysgwyr.
- Cynnal gweithdai rhithiol ac wyneb yn wyneb, yn ôl y galw. (Mae’n bosib i’r sesiynau yma cael ei gynnal yn hwyrach yn y prynhawn a gyda’r nos yn ôl yr alw. Bydd amserlen yn cael ei rhannu o flaen llaw).
- Cydweithio yn agos â thimau eraill yr adran i rannu arferion da.
- Cynnal cofnodion cyrhaeddiad dysgwyr.
- Cynnal adolygiadau rheolaidd gyda dysgwyr a rhannu gwybodaeth addas gyda chyflogwyr yn fisol.
- Cydweithio gyda thîm HWB Sgiliau Hanfodol i sicrhau bod sgiliau hanfodol prentisiaid yn cael eu datblygu yn gyfredol trwy gydol eu prentisiaeth.
- Defnyddio technoleg a meddalwedd addas i hybu cyrhaeddiad dysgwyr.
- Diweddaru a chynnal Cynllun Unigol Dysgwyr.
- Mynychu cyfarfodydd Tîm a rhannu gwybodaeth ynglŷn â chynnydd eich gwaith a’ch dysgwyr.
- Cymryd rhan ymroddgar i’r cyfarfodydd tîm a safoni.
- Ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus a’i chofnodi’n briodol.
- Hybu sgyrsiau agored gyda dysgwyr ar amryw o bynciau a’i gyfeirio at adnoddau pellach.
- Ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol gan eich Rheolwr yn ôl y galw.
- Gweithio o fewn Cod Ymarfer y Cyngor Gweithlu Addysg.
- Gweithredu mewn modd sydd yn hybu lles, iechyd meddwl a corfforol iach a datblygiad proffesiynol dysgwyr ac aseswyr
Sign up for our newsletter
The latest news, articles, and resources, sent to your inbox weekly.